Cyllidwyr a chefnogwyr

Cost ailddatblygu Pafiliwn Grange  yw £ 1.8m ac rydym wedi codi 99% trwy gyllid grant a rhoddion. Mae ein cefnogwyr yn cynnwys Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Prifysgol Caerdydd, Llywodraeth Cymru, Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad Moondance, Sefydliad Clothworkers’, HEFCW, Sefydliad ASDA, IKEA a Chlwb Rotari Bae Caerdydd.

Bydd cefnogwyr y prosiect yn cael sylw ar nodwedd barhaol ‘diolch’ y tu mewn i Bafiliwn Grange newydd a byddem wrth ein bodd yn eich ychwanegu at y rhestr! I wneud rhoddiad, ewch i’n tudalen Cyfrannu (dolen).

Ewch i https://www.facebook.com/grangepavilion/ i ddarganfod mwy sut mae Pafiliwn y Grange yn gwneud gwahaniaeth i unigolion yn Grangetown.

#BuildingItTogether