Cyfarfod â’r Tîm

Mae gan Bafiliwn Grange un rheolwr amser llawn, wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Fawr, a thri aelod o staff rhan-amser, wedi’u hariannu gan Sefydliad Moondance a Sefydliad Cymunedol Cymru. Heb eu cefnogaeth, ni fyddai Pafiliwn Grange yn gallu gweithredu a chefnogi’r gymuned. Diolch enfawr i’n cyllidwyr!

Mae 75% o’n staff yn drigolion Grangetown, ac mae dau o’n staff yn bobl ifanc sydd wedi rhyngweithio â Phafiliwn Grange fel aelodau o’r Fforwm Ieuenctid.

Rydyn ni’n gobeithio gallu cyflogi mwy o bobl wrth i ni ddatblygu.

Os hoffech chi gefnogi Pafiliwn Grange i ddod yn gynaliadwy yn ariannol, helpwch ni trwy roi rhodd trwy’r botwm ar ein tudalen gartref. Diolch!

  • Sophey Mills

    Rheolwr Pafiliwn Grange
    Ymunodd Sophey Mills â'r tîm ym mis Medi 2019 fel Rheolwr Pafiliwn Grange i redeg yr adeilad o ddydd i ddydd, cysylltu â'r gymuned, sicrhau bod yr adeilad yn groesawgar ac yn hawdd ei ddefnyddio, rheoli archebion ystafell, trefnu digwyddiadau a gwneud Pafiliwn Grange yn le llewyrchus i bawb o Grangetown ei ddefnyddio a'i fwynhau. Bu Sophey yn rheoli Canolfan Gymunedol Maes-Y-Coed am dros dair blynedd, gan ei hadeiladu o'r llawr i fyny yn ased a gynhelir yn ariannol gan y gymuned ac mae'n edrych ymlaen at wneud yr un peth ym Mhafiliwn Grange. "Rwy'n falch iawn o fod yn rheoli Pafiliwn Grange ac edrychaf ymlaen at groesawu pawb i'r adeilad. Rwy'n credu'n gryf ym buddion y gymuned yn rhedeg adeilad gyda'i gilydd a byddaf yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gwirfoddoli ym Mhafiliwn Grange."
  • Liana Harding

    Cynorthwyydd Pafiliwn Grange
    Mae gen i lun o fy mam gyda mi mewn pram 72 mlynedd yn ôl yng Ngerddi Grange. Roeddwn i'n arfer cerdded trwodd i fynd i ysgol Cyngor Grange bob dydd. Rwyf wedi dod o hyd i atgofion ohono ac mae'n wych ei weld yn cael ei ddefnyddio y tu mewn a'r tu allan, cyhyd y bydd yn teyrnasu. Mae gan y Pafiliwn bresenoldeb, cydweithwyr a phrosiectau gwych. Y gwirfoddolwr ieuengaf yw Seb 3 oed, sy'n helpu yn yr ardd.
  • Aliyah Jama

    Cynorthwyydd Pafiliwn Grange
    O weld y Pafiliwn wedi'i adeiladu o'r llawr i fyny, yn byw yn agos ac yn defnyddio Gerddi Grange yn rheolaidd, mae'n bleser mawr gennyf fod gennym gyfleuster o'r fath ar gyfer ein cymuned a'r ardaloedd cyfagos. Rwy’n angerddol am ddyfodol y Pafiliwn, a sut mae’n dod â gwahanol bobl ynghyd.
  • Ibrahim Abdi

    Cynorthwyydd Pafiliwn Grange
    Dechreuais gymryd rhan trwy wirfoddoli yn Grangetown pan oeddwn yn 18 oed tra roeddwn yn cwblhau fy Bagloriaeth Cymreig, ac yna es ymlaen i redeg fy sesiynau pêl-droed fy hun yn hen Bafiliwn Grange. Mae Grangetown mor arbennig ac unigryw a'r hyn sy'n gwneud hynny yw'r bobl, y trigolion lleol a'r gymuned. Mae gan Bafiliwn Grange le arbennig yn fy nghalon oherwydd o oedran ifanc fe wnes i ei wylio’n tyfu ac erbyn hyn mae bod yn rhan o'r twf yn anhygoel. Rwyf mor hapus i allu helpu a chymryd rhan.
  • Dan Ware

    (English) Grange Pavilion Assistant Manager
    (English) 'I am ecstatic to be working at Grange Pavilion alongside a passionate community that loves where they live. The building represents how people can come together to make something great and I'm glad to be a part of its future and share its success with all those that use it!'