Trwy gydol hanner cyntaf mis Rhagfyr, cododd Tîm Pafiliwn y Grange gyfanswm o £762 ar gyfer y pafiliwn newydd gyda chymorth trigolion lleol a’u rhoddion hael.

Roedd yn amhosibl gweld Sophey, rheolwr newydd Pafiliwn y Grange, neu unrhyw aelod arall o dîm Pafiliwn y Grange yn unrhyw le yn ystod mis Rhagfyr heb iddyn nhw ofyn a oeddech chi eisiau prynu tocyn raffl neu ddau. Roedd y raffl Nadolig, a oedd â’r nod o godi mwy o arian i’r pafiliwn, yn cynnwys tair gwobr ar wahân i’w hennill, pob un wedi’i rhoi gan fusnesau amrywiol. Y wobr gyntaf oedd Hamper Nadolig enfawr, yr ail wobr oedd blwch o lego, a’r drydedd oedd set anrhegion gan Fudgepots. Diolch yn fawr iawn unwaith eto i’r holl fusnesau a roddodd rywbeth i’n raffl.

Prynodd y preswylwyr eu tocynnau oddi wrth y tîm mewn mannau gwahanol trwy gydol pythefnos gyntaf mis Rhagfyr, a phrynwyd mwyafrif y tocynnau yng nghwis y dafarn a gynhaliwyd yn Nhafarn y Grange ar yr 11eg o Ragfyr. Arweiniwyd y cwis gan lysgennad myfyrwyr Porth y Gymuned, Andrea Drobna, a Nirushan Sudarsan o’r Fforwm Ieuenctid, a phrofodd yn llwyddiant ysgubol.

Ar yr 16eg o Ragfyr, aeth Ashley Lister o fwrdd Pafiliwn y Grange a Mark Camilleri o’r tîm adeiladu â’r bwced raffl i’r safle adeiladu a thynnu tocynnau enillwyr y gwobrau i gyd. Llongyfarchiadau i Frances am ennill y hamper Nadolig, i Edwan am ennill y Legos, ac i Sylvia am ennill cyffug blasus Fudgepots!

Diolch unwaith eto i bawb a ddaeth i’n cwis tafarn, ac i bawb a brynodd docyn raffl (neu 20) i gefnogi ein pafiliwn. Ni allem fod yn gwneud yr hyn a wnawn heb gefnogaeth ein cymuned, ac rydym yn gwerthfawrogi pob un ohonoch gymaint.

Blwyddyn Newydd Dda i bawb, ac edrychwn ymlaen at yr hyn fydd gan 2020 ar y gweill i ni.

Gyda chariad,

Tîm Pafiliwn y Grange