Cymerodd CIO Pafiliwn y Grange – sy’n cynnwys preswylwyr Grangetown, Prosiect Pafiliwn Grange, Grangetown Community Action, Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd, Taff Housing, Coleg Caerdydd a’r Fro, Clwb Rotari Bae Caerdydd ac RSPB Cymru – yr allweddi ar ddydd Llun 29ain Mehefin a ni bellach yn gweithio’n agos gyda’n contractwr, BECT, i gwblhau’r gwaith adeiladu gyda’r gobaith y bydd yr adeilad yn barod i’w ddefnyddio erbyn canol mis Awst.

 

Byddwn yn cadw’n gaeth at ganllawiau Llywodraeth Cymru ac yn gweithio ar addasu’r adeilad i gadw at fesurau pellhau cymdeithasol a diogelwch personol, megis gosod gorsafoedd glanweithio dwylo a systemau unffordd.

Mae Ali Abdi ac aelodau’r Fforwm Ieuenctid wedi bod yn defnyddio eu drôn newydd i gymryd fideos cyffrous o’r pafiliwn a’r ardd (yr ydym yn gobeithio eu rhannu cyn bo hir), ac mae Porth Cymunedol ac aelodau bwrdd yr elusen wedi gweithio gyda’r artist Jack Skivens a Creative Cardiff i greu bwrdd stori o daith Pafiliwn Grange a fydd yn cael ei arddangos yn yr adeilad newydd.

Yr wythnos diwethaf, ymwelodd ein rheolwr, Sophey Mills, â’r pafiliwn am y tro cyntaf ers dechrau’r adeg ‘lockdown’. Mae hi’n rhannu rhai o’i meddyliau o’i hymweliad isod:

  1. Sut oeddech chi’n teimlo y tro cyntaf i chi gerdded i mewn i’r pafiliwn newydd?

“Cyffrous yn sicr! Mor hapus fy mod i wedi ymuno â thîm mor wych ac i fod yn gweithio mewn ardal anhygoel yng Nghaerdydd! Ni allaf aros i’w rannu gyda’r gymuned????”

  1. A oes unrhyw beth rydych chi’n nerfus yn ei gylch?

“I fod yn onest dwi ddim! Rwy’n llawer rhy gyffrous i fod yn nerfus.”

  1. Am beth ydych chi’n fwyaf cyffrous pan fydd yr adeilad yn agor?

“Rwy’n gyffrous i gael y gymuned at ei gilydd! Er mwyn galluogi cyfleoedd i bawb, ddarparu amrywiaeth o weithgareddau a sicrhau bod pawb yn hapus!”

  1. Beth yw’r ffordd orau i bobl gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd gyda’r pafiliwn?

“Y ffordd orau fyddai ein gwefan neu ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol! Grange Pavilion ar Facebook a @Grange_Pavilion ar Trydar ????”

  1. Ac yn olaf, unrhyw gynlluniau ar sut rydych chi am addurno’ch swyddfa?

“Bydd y swyddfa wedi’i haddurno i sicrhau bod ganddi deimlad cynnes a chroesawgar lle bydd pobl eraill sy’n gweithio yno eisiau dychwelyd!”

Rydyn ni mor gyffrous i weld y cyfan yn dod at ei gilydd, ac allwn ni ddim aros i gyflwyno’r lle i chi!

Gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd draw i’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol i weld taith gerdded o’r lle, a chofiwch ein dilyn i gael mwy o ddiweddariadau!

Gyda chariad,
Tîm Pafiliwn Grange