Mae Pafiliwn Grange yn helpu preswylwyr i wrthdroi dirywiad natur a thyfu eu bwyd eu hunain diolch i gynllun garddio newydd gan yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus.

 

Mae ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ yn cynnig pecynnau ‘datblygu’ i gymunedau, sy’n cynnwys hyfforddiant, cyngor, cymorth ymarferol a chefnogaeth i osod mannau gwyrdd newydd, yn ogystal ag offer, deunyddiau a chyfarpar i ofalu amdanynt yn y tymor hir.

 

Bydd Pafiliwn Grange yn neilltuo ardal ar gyfer tyfu bwyd ar raddfa fwy gyda chymorth Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, a bydd honno’n cynnwys:

 

  • Pump o goed ffrwythau cynhenid
  • Dau o welyau wedi’u codi wedi eu gwneud o gledrau pren (tua 2.4m x 1m)
  • Casgliad o hadau ar gyfer rhandiroedd
  • Planhigion ffrwythau mewn potiau
  • Llwyni ffrwythau
  • 40m2 o laswelltir ar gyfer blodau gwyllt
  • 50m o ffensys
  • Tŷ gwydr (1.97m x 1.97m)
  • Casgen ddŵr
  • Bin compost
  • Gosod llwybr (deg metr)
  • Storfa offer (1.57m x 1.43m)
  • Mainc wedi ei wneud o blastig wedi’i ailgylchu (1.2m o led)
  • Amrywiaeth o offer llaw i greu a gofalu am yr ardd

 

Bydd y rhandir yn cael ei adeiladu yng ngornel de-dwyrain ar ardd

 

Dywedodd Sophey Mills, Rheolwr Pafiliwn Grange:

 

“Mae pecyn Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn golygu cymaint i ni yma ym Mhafiliwn Grange gan y bydd yn rhoi cychwyn i’n rhandir cymunedol ac yn helpu trigolion Grangetown i dyfu bwyd eu hunain a dysgu am dyfu a chynaeafu tymhorol.  Ni allwn aros i ddechrau!

Byddwn yn annog unrhyw grŵp cymunedol sy’n bwriadu tyfu bwyd eu hunain neu eisiau dod â mwy o wyrddni i’w hardal i roi cais i mewn i Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.  Mae’r ffurflen gais yn syml ac rydych yn cael ateb o fewn wythnosau nid misoedd.”

 

Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus, Louise Tambini:

 

“Fwy nag erioed, mae pobl yn sylweddoli gwerth natur ar gyfer iechyd a lles ein cymunedau.  Rydym wrth ein bodd fod grwpiau, fel Pafiliwn Grange, gyda’r cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn nawr drwy Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.  Rydym yn gwybod fod llawer o ardaloedd eraill a fyddai’n elwa o’r cynllun ac rydym yn annog pobl i gymryd rhan tra bod pecynnau am ddim ar gael o hyd.”

 

Mae’r fenter yn rhan o gronfa ehangach £5m ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ gan Lywodraeth Cymru sydd wedi ymrwymo i gaffael, adfer a gwella natur ‘ar garreg eich drws’.

 

Mae pecynnau dal ar gael i grwpiau a sefydliadau cymunedol.  I wneud cais i Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ewch i www.keepwalestidy.cymru/Pages/Site/cy/Category/natur

 

·       Y dyddiad cau nesaf ar gyfer cyflwyno cais i Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yw 31 Awst

·        Mae pecynnau garddio ar gael i grwpiau a sefydliadau cymunedol o hyd