Caffi
Mae’r Hideout yn siop goffi â ffocws cymunedol wedi’i lleoli ym Mhafiliwn Grange.
Nod y siop goffi yw dod â phobl ynghyd i siarad a mwynhau coffi blasus.
Mae’r tîm Hideout yn angerddol am gydlyniant cymunedol ac yn darparu llawer mwy na choffi gwych a chacennau blasus!
Mae’r siop goffi wedi darparu brecwast am ddim ac yn gweithredu coffi-gyda-chydwybod, lle gellir prynu diodydd poeth i eraill. Ar hyn o bryd yn gweithredu trwy ffenestr tecawê yn wynebu Gerddi Grange, ar ôl ei ailagor yn llawn ar ôl locdown, bydd y siop goffi yn cynnig nosweithiau gemau, caffi trwsio, clwb gwyddbwyll ac ystod o ddigwyddiadau cymunedol sydd wedi’u cynllunio i ddod â phobl ynghyd.
Ar hyn o bryd mae’r Hideout ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 9am a 3pm.