Cyfleoedd Cyflogaeth

Ceidwaid Mannau Grangetown

Hoffech chi ystyried gyrfa yn gweithio ym maes tirwedd a pharciau? Mae Pafiliwn Grange yn hysbysebu dwy brentisiaeth yn gweithio gyda Cheidwaid Mannau Grangetown i gefnogi grwpiau garddio cymunedol yn Grangetown. Mae swyddi llawn amser, Gradd 2, yn dod i ben ar 30 Mehefin, a gallant ddechrau ar unwaith. Bydd y swydd yn eich cyflwyno i rôl Ceidwad Mannau ac yn eich helpu i baratoi ar gyfer ymgeisio yn y dyfodol am hyfforddiant Prentisiaeth Ceidwad Mannau ffurfiol gydag awdurdodau lleol. Mae Grangetown yn ardal amrywiol ac amlddiwylliannol. Caiff y deiliaid swydd y cyfle i weithio gyda’n cymuned ryfeddol. £18,562 pro rata.

Gweler y disgrifiad swydd. Anfonwch gais gyda llythyr eglurhaol yn amlinellu pam fod gennych chi ddiddordeb yn y swydd ac unrhyw brofiad perthnasol sydd gennych. Llythyr eglurhaol heb fod dros un ochr A4. Neu anfonwch ddolen at fideo nad yw’n hirach na thri munud o hyd.

Job Description and Person Specification- Grangetown Apprentice Place Ranger – CYM

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, ffoniwch am sgwrs o ddydd Llun i ddydd Mercher ar 07947581902 a gallwn eich cefnogi gyda’r broses ymgeisio.

Dyddiad cau 8 Mawrth 2022
Cyfweliadau 11 Mawrth 2022

I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd amrywiol a gwerth chweil hon, cysylltwch â admin@grangepavilion.wales