Dros wyliau’r haf, daeth preswylwyr ynghyd i ddarparu cinio iach, am ddim i deuluoedd yn Grangetown.

 

Gweinodd Grace Church Caerdydd, mewn partneriaeth â Grangetown Community Action a Pafiliwn Grange, bron i 400 o giniawau i deuluoedd yn yr ardal trwy’r fenter Gwneud Cinio Grangetown. Wedi’i leoli y tu allan i ganolfan gymunedol newydd Pafiliwn Grange, bu gwirfoddolwyr yn ymgysylltu â theuluoedd mewn angen, gan ddarparu cinio maethlon a sgwrsio cyfeillgar.

 

Cyn y pandemig, roedd Grace Church yn bwriadu rhedeg clybiau cinio trwy’r gwyliau, ond roedd amgylchiadau’n golygu nad oedd hyn yn bosibl. Ar ôl sylweddoli’r effaith a gafodd coronafirws ar gyllid mewn cartrefi ledled Grangetown, buont yn gweithio gyda Grangetown Community Action i sicrhau cyllid i ddarparu cinio pecyn parod, yn rhad ac am ddim.

 

Dywedodd Lizzie Swaffield, o Grace Church Caerdydd:

 

“Mae wedi bod yn bleser gallu gwasanaethu’r gymuned trwy Make Lunch Grangetown dros wyliau’r haf. Mae tîm gwych o wirfoddolwyr wedi gwneud gwaith gwych o baratoi a dosbarthu cinio i gefnogi teuluoedd lleol.

 

Gan weithio ar y cyd â Grangetown Community Action a Pafiliwn Grange mae’r fenter hon wedi helpu i gefnogi teuluoedd sy’n cael trafferth gyda chostau bwyd ar adeg anodd ac ansicr i lawer o bobl. “

 

Ychwanegodd Cadeirydd Grangetown Community Action, y Cynghorydd Ash Lister:

 

“Er bod cefnogaeth i atal teuluoedd rhag mynd i dlodi bwyd, yn anffodus nid yw’r rhai sydd eu hangen fwyaf yn eu cyrchu bob amser.

 

Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda gwirfoddolwyr o Grace Church i sicrhau bod y rhai mewn angen yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt, ac edrychaf ymlaen at ddatblygu’r cynllun ar gyfer gwyliau yn y dyfodol. ”