Gwreiddiau cynnar Grangetown

Cafodd Grange Farm, a oedd yn aml yn cael ei hadnabod fel Moor Grange, ei sefydlu ar ddechrau’r drydedd ganrif ar ddeg yn lluest i fynachod. Mynachod Sistersaidd Abaty Margam oedd y perchnogion ac yn ffermio’r tir. Trwy gydol y cyfnod canoloesol ceir cyfeiriadau at “the grange on the moor near Kardif”.

Parhaodd y lluest i fod yn eiddo i’r mynachod a fu’n ei gosod ar brydles nes i’r mynachlogydd gael eu diddymu yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Trosglwyddwyd y tir i deulu Lewis ym 1537 ac fe’i disgrifiwyd ym 1595 fel “messuage (tŷ ac adeiladau allanol), one barn, one parcel of land, meadow and pasture called the Graing de Moore.” Gellir dadlau ei fod wedi dirywio rhywfaint ers pan oedd dan berchnogaeth y mynachod.

Ffermdy Grange, sy’n dal yn sefyll heddiw ar gornel Clive Street a Stockland Street, yw’r adeilad hynaf yn Grangetown. Mae wedi’i amgylchynu gan dai teras erbyn hyn, ond fe’i codwyd ar ddiwedd y cyfnod canoloesol ac ar un adeg dyma’r unig dŷ o fewn milltiroedd o dir cors. Bernid mai hwn oedd yr unig dŷ rhwng Caerdydd a Phenarth hyd at ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Erbyn 1638, roedd y faenor o’r enw “Grange Marshes” yn 300 erw, bob un yn werth pedair ceiniog y flwyddyn. Dywedwyd bod y faenor yn ffinio â thiroedd uwch Penarth yn y gorllewin, glannau Hafren yn y de, Afon Taf yn y dwyrain, a thiroedd comin Lecwydd yn y gogledd.

Ym 1881, roedd y fferm wedi’i phrydlesu i deulu Morgan gan Iarll Plymouth ac yn cael ei rhedeg fel fferm laeth 120 erw a oedd yn cyflenwi llaeth i’r ardal leol. Parhaodd y llaethdy i weithredu gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac i mewn i’r ugeinfed ganrif.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cymdeithas Hanes Grangetown: http://www.grangetownhistory.co.uk/grangefarm.htm