Diwydiannu a Barwnes Windsor

Roedd Harriet Windsor-Clive (1797-1869) yn berchennog tir gyfoethog. Yn 1833 etifeddodd Ystâd Plymouth a oedd yn cynnwys y tir lle mae Penarth a Grangetown wedi eu hadeiladu erbyn hyn.

Rhoddwyd y teitl 13eg Barwnes Windsor iddi yn 1855. Yn fuan wedi hynny dechreuodd ar ei gwaith helaeth o ddatblygu doc Penarth. Cwblhawyd y dociau ym 1865 ac roeddent yn llwyddiant mawr ac yn gallu cystadlu â Dociau Caerdydd oedd yn eiddo i’r Arglwydd Bute.

Roedd hi’n hynod o ddylanwadol yn natblygiad Grangetown. Ym 1857 sicrhaodd Ddeddf oedd yn caniatáu iddi ddatblygu’r ardal, adeiladu ffyrdd a gosod system ddraenio a charthffosiaeth. Anogodd ddatblygiad diwydiannau hefyd, ac roedd hi’n gobeithio y byddai hynny nid yn unig yn dod ag incwm rhent iddi am y tir ar brydles ond hefyd yn creu swyddi gan gynyddu’r galw am y tai yr oedd hi’n bwriadu eu hadeiladu. Roedd llawer o’r tai, yn enwedig yn Grangetown uchaf, yn gartref i’r miloedd o weithwyr mudol.

Hi oedd yn gyfrifol am enwi Grangetown, a dywedodd:

‘The subject of a name for the new Town we may now expect to see spring up on the Grange and he (son Robert Windsor-Clive) is more disposed that it should bear the name of the locality rather than that of ‘Clive’. ‘Grangetown’ would be very suitable for various reasons and is I think the best – the name of ‘Clive’ may appear for the principal street.’

Diwydiant

Datblygodd Grangetown yn gyflym iawn o’r 1850au ymlaen. Newidiodd o fod yn ddim byd mwy na llond llaw o dai ar ffyrdd gwael i’r ardal a fyddai’n dod yn y pen draw yn faestref fywiog i Gaerdydd. Ymysg y diwydiannau cyntaf a ddatblygodd yn Grangetown roedd Tanerdy ger yr ardal lle mae Parc Severn Oaks erbyn hyn, gwaith gwneud rhaff, iard frics yn y fan lle mae Paget Street bellach, a’r gwaith nwy sydd i’w weld o hyd ger Parc Grangemoor.

Un o’r busnesau cyntaf i gael eu sefydlu yn Grangetown, hyd yn oed cyn i’r Farwnes Windsor ddatblygu’r ardal, oedd yr iard frics. Roedd hwn yn defnyddio’r clai Marl oedd yn doreithiog yn yr ardal. Cafodd ei ehangu wedi hynny gan y Farwnes Windsor a welodd bod cyfle iddi ddefnyddio’r brics lleol yn y datblygiadau tai helaeth yr oedd wedi’u cynllunio yn Grangetown.

Agorodd y gwaith gwneud rhaff yn 1863 a daeth yn gyflogwr mawr oedd yn cyflogi tua 60 o ddynion, menywod a bechgyn pan oedd ar ei anterth. Ei brif bwrpas oedd darparu rhaff i Gaerdydd ac, yn ddiweddarach, i Ddociau Penarth.

 Roedd y gwaith nwy yn gyflogwr mawr arall. Symudodd i Grangetown ym 1863 o’i safle llai yn Whitmore Lane. Roedd safle Ferry Road yn lleoliad perffaith gan fod ganddo fynediad i’r rheilffordd. Roedd yn caniatáu hefyd i’r gwaith nwy ehangu i gyfateb â’r galw cynyddol am nwy ledled Caerdydd. I ddechrau, defnyddiwyd y nwy yn bennaf ar gyfer cynnau’r goleuadau stryd newydd oedd wedi disodli’r lampau cerosin llai llachar ar draws y ddinas.

Erbyn dechrau’r ugeinfed ganrif roedd Ffatri Sigârs Freeman, oedd wedi’i leoli i ddechrau ar North Clive Street ac yn ddiweddarach ar Ffordd Penarth, yn un o’r busnesau mwyaf yn Grangetown. Roedd yn cyflogi llawer iawn o fenywod.

Roedd nifer o olchdai yn Grangetown hefyd. Dau o’r golchdai mwyaf yn Grangetown oedd Golchfa Ffrwd De Cymru a Golchdy’r Grug Gwyn, sef y New Era Laundry yn ddiweddarach, a oedd hefyd yn cyflogi llawer o fenywod. Cafodd llawer o’r golchdai eu sefydlu gan fewnfudwyr Tsieineaidd a oedd, yn ôl cyfrifiad 1911, wedi dod o Dreganna. Ym 1911 ymosodwyd ar lawer o olchdai’r mewnfudwyr Tsieineaidd gan bobl oedd yn cyfranogi yn streic y Morwyr. Roedd y bobl hyn yn ddig bod cyflogwyr wedi defnyddio gweithwyr Tsieineaidd i gadw’r porthladdoedd yn agored, a hyd yn oed wedi talu cyflogau uwch iddynt. Felly, ymosododd y streicwyr ar forwyr Tsieineaidd a hyd yn oed gartrefi a busnesau’r gymuned Tsieineaidd leol.