Terfysgoedd hil

Yn 1919, roedd tensiynau hiliol ar draws de Cymru yn ferw gwyllt. Am dridiau a ddechreuodd ar 11 Mehefin, bu torfeydd o bobl wyn yn gwrthdaro â’r boblogaeth o fewnfudwyr. Cafodd llongfasnachwyr lleol o gefndiroedd Yemeni, Somali ac Affro-Caribïaidd yn bennaf a’u teuluoedd eu targedu yng Nghaerdydd.

Yn Nhre-biwt y digwyddodd y terfysgoedd yn bennaf ond gwnaethon nhw hefyd ymledu i Grangetown. Anafwyd cannoedd o bobl, a lladdwyd tri dyn wrth i ymladd ddechrau yn y stryd ac ymosodwyd ar gartrefi a busnesau. Adeg terfysgoedd 1919, adroddodd y Western Mail fod y digwyddiadau yn ‘an amazing orgy of pistol firing, window smashing, and skirmishes between white men and coloured men’.

Bu llawer o densiwn ar ôl y Rhyfel oherwydd diffyg tai, swyddi a chyfleoedd. Yr esboniad arferol am y gwrthdaro oedd bod cyn-filwyr gwyn oedd yn dychwelyd adref o’r Rhyfel wedi digio wrth y boblogaeth o fewnfudwyr yn seiliedig ar y canfyddiad eu bod wedi cymryd swyddi oddi wrth weithwyr gwyn. Fodd bynnag, fel mae’r ymchwilydd Jamie Baker yn ei nodi, nid oedd y deg dyn gwyn a gafwyd yn euog am gychwyn y terfysgoedd yn gweithio fel llongfasnachwyr. Roedd adroddiadau rhagfarnllyd gan y cyfryngau yn gwaethygu’r tensiwn, gan roi’r bai ar y lleiafrifoedd.

Llwyddodd grwpiau o ddynion i ffurfio rhes amddiffynnol ym mhen uchaf Stryd Bute i geisio dal y torfeydd yn ôl, tra bod menywod yn baricedio eu hunain a’u plant yn eu cartrefi.

Roedd dau ddyn a laddwyd yn y terfysgoedd yn dod o Grangetown, yn ôl Cymdeithas Hanes Lleol Grangetown. Lladdwyd Harold Smart, 20, o 19 Monmouth Street, pan gafodd ei wddf ei dorri gyda rasel ger yr Aes. Cafodd John Donovan, 33, o Thomas Street, cyn-filwr a gweithiwr rheilffordd ei saethu a’i ladd mewn tŷ yn Millicent Street.

Yn Somerset Street, Gogledd Grangetown, targedwyd dyn Caribïaidd, James, a oedd wedi ennill medalau yn ymladd yn y Rhyfel, ynghyd â’i wraig wen Agnes Jolly. Ymosododd terfysgwyr ar gartref y cwpl. Llwyddodd James i ddianc tra bod Agnes a’u merch Beatrice yn ffoi i fyny’r grisiau. Disgrifiodd yr hanesydd Neil Sinclair yr hyn a ddigwyddodd wedyn: ‘Wedi’u siomi am na ddaethon nhw o hyd iddo, dechreuon nhw chwilio a dinistrio’r cartref.

Ymosodwyd ar Agnes a’i tharo i’r llawr tra bod y terfysgwyr yn arllwys paraffîn dros fwrdd yr ystafell fyw, ar fin rhoi’r tŷ ar dân.’ Mae’n debyg na chafodd y tŷ ei losgi gan mai tŷ rhent ydoedd, ac nid yn eiddo i’r teulu.