Rhyfeloedd y byd yn Grangetown

Effeithiodd y Rhyfeloedd yn fawr ar Grangetown.

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Wrth ddadorchuddio’r gofeb ryfel yng Ngerddi Grange ym mis Gorffennaf 1921, dywedodd un siaradwr, Dr R J Smith, fod ‘Grangetown wedi rhoi cyfran uwch o ddynion i’r rhyfel nag unrhyw ward arall yng Nghaerdydd.’ Mae Cymdeithas Hanes Grangetown yn credu bod 480 o ddynion a menywod wedi’u lladd ar wasanaeth gweithredol erbyn 1921. Roedd dynion o Grangetown yn rhan o Frwydr y Somme, Brwydr Ypres a Brwydr Jutland.

Nid yn unig y gadawodd llawer o ddynion lleol eu cartrefi yn Grangetown i ymuno â’r lluoedd ond roedd bywyd gartref yn wahanol iawn hefyd. Cymerodd menywod fwy o leoedd yn y gweithlu wrth i ddynion adael i wasanaethu yn y lluoedd, a dechreuodd pobl gael trafferthion ariannol wrth i’r economi gael ei effeithio.

Yr Ail Ryfel Byd

Achosodd yr Ail Ryfel Byd ragor o golledion i Grangetown wrh i ddynion lleol unwaith eto gofrestru i wasanaethu yn y lluoedd arfog.

Ymunodd nifer sylweddol o ddynion o gefndiroedd lleiafrifol â’r lluoedd hefyd, llawer ohonyn nhw o ardaloedd Grangetown a Thre-biwt. Yn ôl yr ymchwilydd Jamie Baker, bu farw 685 o fasnachlongwyr Arabaidd a 330 Caribïaidd wrth wasanaethu yn y Llynges Fasnach Brydeinig, ac o’r rheini nododd 189 a 42 yn y drefn honno eu cyfeiriad hysbys olaf fel Caerdydd.

Newidiwyd bywyd gartref hefyd. Dechreuodd dogni ym mis Ionawr 1940 i sicrhau y gellid dosbarthu bwyd a nwyddau prin yn deg. Ymunodd dynion a menywod ledled Caerdydd â’r Gwarchodlu Cartref i gadw rheolaeth dros y boblogaeth sifil a sicrhau bod rheolau fel cyrffyw yn cael eu dilyn.

Y Blitz

Caerdydd oedd y porthladd allforio glo mwyaf ym Mhrydain ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd. Felly, roedd yn darged amlwg ar gyfer bomio. Ar 2 Ionawr 1940, targedodd dros gant o awyrennau’r Almaen y ddinas mewn ymosodiad awyr a barodd dros ddeng awr gan achosi difrod sylweddol. Yr ardaloedd a gafodd eu taro waethaf oedd Grangetown a Glanyrafon.

Achosodd yr ymosodiad tua 70 o farwolaethau yn Grangetown. Syrthiodd bomiau ar gartrefi a busnesau ar draws Grangetown gan gynnwys Ferry Road, Jubilee Street, Clydach Street, Paget Street, Pentrebane Street, Avondale Crescent a North Clive Street.

Y lle a ddioddefodd waethaf oedd Hollyman’s Bakery lle lladdwyd 32 o bobl a oedd wedi bod yn cysgodi yn yr islawr.

Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop

Ddydd Mawrth 8 Mai 1945, ymgasglodd torfeydd y tu allan i Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd i glywed y newyddion o Lundain bod y Cynghreiriaid wedi derbyn ildio diamod yr Almaen yn ffurfiol, oedd yn golygu diwedd yr Ail Ryfel Byd yn Ewrop.

Aeth pobl o bob cwr o’r wlad allan i’r strydoedd i ddathlu. Cafodd baneri eu hongian, a chafodd dognau eu cyfuno i greu partïon stryd lle byddai cymunedau’n dathlu’r newyddion gyda’i gilydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhyfeloedd Byd yn Grangetown ewch i wefan Cymdeithas Hanes Grangetown: www.grangetownhistory.co.uk