Caru a byw yn Grangetown? Hoffech chi gymryd rhan mewn gweithdy ysgrifennu yn seiliedig ar brosiect hanes cyffrous?
Mae Periscopes for the Past yn arddangosfa gyffrous sy’n edrych ar hanes Grangetown trwy bum digwyddiad: Grange Farm, y llifogydd, y Farwnes Windsor a’r chwyldro diwydiannol, y rhyfeloedd mawr a’r Terfysgoedd Ras.
Mae’r digwyddiadau hyn wedi ysbrydoli gweithiau celf a fydd yn cael eu harddangos trwy olygfeydd hanesyddol (dioramas) wedi’u gosod mewn pum perisgop i chi eu gweld yng ngardd Pafiliwn Grange.
Er mwyn dathlu’r prosiect a chyfrannu at yr arddangosfa, rydym yn eich gwahodd i ymuno â’r awdur Sophie Buchaillard ar gyfer gweithdy ysgrifennu dwy awr pan fydd Sophie yn rhannu ei phrofiad o ysgrifennu o ddigwyddiadau hanesyddol ac yn gweithio gyda chi ar un o’r pum thema i dod â hanes yn fyw.
Y nod yw creu naratifau, cerddi a straeon byrion preswylwyr wedi’u hysbrydoli gan hanes Grangetown a fydd wedyn yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa.
Mae dau sesiwn ar gael:
12fed o Fehefin – 10 i 12am
12fed o Fehefin – 1pm i 3pm
Sut i gymryd rhan:
Mae lleoedd yn gyfyngedig a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Cofrestrwch eich diddordeb trwy e-bostio’ch enw, cyfeiriad a rhif ffôn i ThomasL90@cardiff.ac.uk
Dewch â’ch ysgrifbin a’ch papur eich hun os yw’n gyfleus, er y bydd deunyddiau wrth law yn y Pafiliwn ar y diwrnod.
Awdur a darlledwr radio lleol yw Sophie Buchaillard. Mae hi’n ysgrifennu straeon byrion a nofelau wedi’u hysbrydoli gan ddigwyddiadau hanesyddol. Mae hi’n aelod o Grŵp Awduron Cymru – A Zoom of Our Own – ac Aelod Cyswllt o Gymdeithas yr Awduron. Mae hi’n ysgrifennu fel cyfrannwr yn Adolygiad Celfyddydau Cymru. Yn aelod sefydlu Borth Cymunedol gyda’i gŵr, mae hi’n falch iawn o fod yn ôl yn gweithio yn y Pafiliwn.
Gallwch ddarganfod mwy am Sophie a’i gwaith trwy fynd i www.sophiebuchaillard.com a’i dilyn ar Twitter @growriter.