Mae Grangetown yn lle creadigol, amrywiol a bywiog i fyw a gweithio ynddo ac yma ym Mhafiliwn Grange, mae’r gymuned yn dathlu hynny a mwy yn y gofod hygyrch a chynhwysol hwn gan groesawu ymwelwyr dyddiol a chynnal cannoedd o glybiau a gweithgareddau ar hyd y flwyddyn.
This beautiful artwork by Jack Skivens wanted to tell the story of Grange Pavilion through the eyes of those who were there from the beginning. His research and interviews helped him capture the project, the people, and the journey to the Pavilion’s launch.
Canlyniad uchelgais lleol
Dechreuodd ein stori dros 10 mlynedd yn ôl pan ddatblygodd preswylwyr weledigaeth a rennir ar gyfer gofod lle gallai holl aelodau eu cymuned ddod at ei gilydd. Daeth y pafiliwn bowls a oedd unwaith yn dirywio – sef y Pafiliwn Grange trawiadol hwn bellach – yn ganolbwynt i’n huchelgais. Ffurfiodd grŵp preswylwyr arbennig – Prosiect Pafiliwn Grange – bartneriaeth gyda’r grŵp gwirfoddol, Gweithredu Cymunedol Grangetown, Prosiect Porth Cymunedol Prifysgol Caerdydd a Chyngor Caerdydd. Bu’r grŵp partneriaeth yn gweithio gyda’i gilydd i godi £1.8m i ailddatblygu pafiliwn bowls a oedd yn wag yn flaenorol yn gyfleuster cymunedol hardd a welwch heddiw. Fe’i cynlluniwyd i greu lle fforddiadwy i’w logi, caffi â ffocws cymunedol yn cynnig hyfforddiant i bobl ifanc, garddio awyr agored a mwy…
O fewn ychydig flynyddoedd yn unig, roedd yr hen bafiliwn yn cael ei ddefnyddio gan filoedd o drigolion ac ugeiniau o randdeiliaid ac roedd wedi lansio 150 o fentrau a arweinir gan y gymuned mewn ymateb i syniadau lleol, ac mae’r syniadau wedi parhau i ddod. Ac mae’r gofodau’n cael eu defnyddio’n helaeth trwy gydol yr wythnos ac ar draws y flwyddyn. Yma yn y Pafiliwn, fe welwch bopeth o glwb garddio i’n Fforwm Ieuenctid, grwpiau gwnïo i sesiynau ffitrwydd Bollywood, clybiau llyfrau i ddosbarthiadau Saesneg. Mae’r rhestr yn helaeth a gallwch ddarganfod mwy yma.
Tîm a Rheolwyr a arweinir gan breswylwyr
Sefydlwyd ein Bwrdd a arweinir gan breswylwyr i helpu i godi’r arian cychwynnol ac i ddatblygu ein hadeilad trawiadol, ac mae eu hymrwymiad i’r prosiect yn parhau heddiw. Caiff y Bwrdd ei gadeirio gan y preswylwyr, Abdi Yusuf a Beth Gaffey.
Bellach, mae gan Bafiliwn Grange statws elusen ac mae 75 y cant o’i dîm yn drigolion Grangetown. Cânt eu harwain gan ein rheolwr, Sophey Mills.