Ein Caffi

Mae The Hideout – ein siop goffi hynod boblogaidd sy’n canolbwyntio ar y gymuned – yn cyfarch ymwelwyr wrth iddynt gerdded drwy ddrws Pafiliwn Grange. Mae ei groeso bob diwrnod o’r wythnos yn gweithio i ddod â phobl ynghyd i ymlacio, sgwrsio, gwneud ffrindiau newydd a mwynhau coffi a chacen wedi’u gwneud yn berffaith. Gallwch chi hefyd, trwy ei fenter coffi-gyda-chydwybod, roi un i rywun arall.

Mae The Hideout y tu ôl i lawer o’n digwyddiadau a’n gweithgareddau ac yn darparu gwasanaethau arlwyo ar gyfer digwyddiadau. Galwch heibio i gael gwybod mwy neu cysylltwch â’n tîm caffi gwych drwy ein ffurflen gysylltu.