Ar ran tîm a Bwrdd Ymddiriedolwyr Pafiliwn Grange, rydym yn falch iawn eich bod yn ystyried ymuno â ni fel ein Cydlynydd Gwirfoddolwyr cyntaf.
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddatblygu rhaglen wirfoddoli Pafiliwn Grangeer mwyn datblygu’r rhaglen ar gyfer ein cam nesaf. Rydym yn falch o fod wedi derbyn cyllid i’n galluogi i recriwtio gwirfoddolwyr ac adeiladu cynnig gwirfoddol cadarn.
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Gwirfoddolwyr ymroddedig, sy’n angerddol am gymuned, cydweithio ac adeiladu rhaglen wirfoddoli rhagorol. Os ydych chi’n cael eich ysbrydoli gan y cyfle i weithio yng nghanol ein cymuned ochr yn ochr â’n tîm ymroddedig a’n gwirfoddolwyr, gydag ymrwymiad diwyro i gynhwysiant, rydym yn eich annog i wneud cais.
🔗Lawrlwythwch y pecyn swyddi isod i ddysgu mwy am y rôl a sut i wneud cais.